Images de page
PDF
ePub

uchod yn foddhaol. Nis gellir meddwl fod yr awyrgylch naturiol mewn unrhyw fodd yn angenrheidiol i drigias ysbrydion. Nid rhaid i gythreuliaid, wrth symud o fan i fan, wneyd yr awyr yn gyfrwng eu hysgogiad: o herwydd nid yw galluoedd naturiol, megys attyniad, gwefriaeth, &c., yn gofyn awyr fel cyfrwng eu hysgogiad, ond tramwyant trwy y sylweddau caletaf; llawer llai ynte y rhaid i alluoedd ysbrydol wrth y fath gyfrwng. Nid oes un awgrymiad yn yr Ysgrythyr ychwaith eu bod yn cael eu carcharu yn yr awyr; nac ychwaith eu bod wedi ei ddewis yn drigfa iddynt eu hunain o herwydd ei gydnawsedd â'u natur, neu o herwydd y fantais a gaent trwy hyny i ymosod ar ddynion, fel pe byddent yn ymlithro yn ddirgelaidd i galonau dynion, fel y mae nwyau heintus yn myned i'w hysgyfaint. Yr esboniad mwyaf naturiol a rhesymol ydyw un Dr. Eadie, yr hwn sydd wedi casglu y crynodeb uchod o wahanol olygiadau. [Commentary on the Ephes.] Y mae y "byd" a'r "awyr" yn cyfateb yn eu perthynas i'w gilydd. Fel y mae awyrgylch o gwmpas y byd naturiol, felly y mae "awyr" (anp) yn amgylchu y "byd" moesol (cooμoc). Yn yr adnod hon, byd ysbrydol a feddylir, sef byd dymuniadau pechadurus-y cylch yn mha un y mae yr annuwiol yn ymsymmud ac yn byw. Mewn ystyr tebyg y defnyddir y gair "byd" yn yr ymadroddion, "y byd llenyddol," "y byd crefyddol." Felly y mae byd y Testament Newydd yn wrthwyneb i Dduw, yn casäu Duw; nid yw y credadyn yn perthyn iddo, y mae wedi ei groeshoelio i'r byd, ac yntau i'r credadyn. Cylch anweledig ydyw y byd hwn, yn cynnwys pob peth sydd yn bechadurus mewn meddwl a gweithred cylch sydd ar y glôb naturiol, eto heb derfynau daiaryddol yn perthyn iddo-yr holl diriogaeth foesol hono sydd yn gorwedd y tu allan i eglwys ddirgeledig Crist. Ac fel y byd naturiol, y mae gan hwn ei awyrgylch sydd yn cyfateb iddo mewn carictor-awyrgylch yn mha un y mae yn an

adlu ac yn byw. Gellir galw pob peth sydd yn rhoi yr un gwasanaeth iddo ag ydyw yr awyr naturiol i'r byd naturiol-pob peth sydd yn gyfrwng cymdeithas, yn ei alluogi i anadlu, ac yn rhoi bywiogrwydd ynddo-yn “awyr.”

AZAZEL: y bwch diangol a arweinid i'r anialwch ar ddydd mawr y cymmod; Lef. xvi. 8, ymyl y ddalen. Gwel BwCH DIANGOL.

AZECAH, [py, cadernid muriau]: dinas gaerog yn iseldir Iudah, tua deuddeng milltir i'r de-orllewin o Ierusalem; Ios. xv. 35. Sonir am dani mewn cyssylltiad â brwydr Gibeon; Ios. x. 10, 11: gwersyllfa y Philistiaid, pryd y lladdwyd Goliath; 1 Sam. xvii. 1: un o'r dinasoedd a gadarnhaodd Rehoboam; 2 Cron. xi. 9: ac yr oedd yn mysg y dinasoedd a orchfygwyd ddiweddaf gan Nebuchodonosor; Ier. xxxiv. 7.

AZIZA, [xrw]: Lefiad o feibion Zattu, ac un o'r rhai a gyttaliasant â gwragedd dyeithr, ac a'u bwriasant ymaith; Ezra x. 27.

AZNOTH TABOR: dinas o Naphtali, yr hon y dywed Eusebius ei bod ar y gwastadedd, heb fod yn neppell o Diocesarea; Ios. xix. 34.

AZOTUS. Gwel ASDOD.

AZZA, [y]: dull o sillebu yr enw Hebrëig a ddodir yn gyffredin yn Gaza. Y mae y gwahaniaeth yn cyfodi oddi ar annilysrwydd grym y llythyren gyntaf y, yr hon, mewn enwau priod, a ddefnyddir gan rai fel y gydsain G; ond ereill a ddaliant yn unig ar sain y llafariad cyssylltiedig â hi, a hono yn yr amgylchiad yma yw A. Y mae yr enw yn y ffurf hon i'w gael yn Deut. ii. 23; Ier. xxv. 20; ac y mae yr olaf yn eglur ddangos mai Gaza a feddylir. [Kitto's Bib. Cyc.] Gwel hefyd Gen. x. 19, ymyl y ddalen. Gwel GAZA.

453

B.

BAAL

BAAL, BEL: dau ffurf o'r un gair, yn cyn nwys yr un ystyr, gyda gwahaniaeth yn unig yn y briod-ddull (idiom); y mae Baal (by) yn perthyn i'r briod-ddull Hebreaidd, neu Ganaaneaidd, a'r ffurf henaf o'r gair. Y mae Bel (ya) yn Syriaidd ei darddiad; a defnyddid ef yn fynych gan y Groegiaid mewn geiriau cyfansawdd, megys Beelzebub, Beelzebul, Beelphegor, Beelsamen. Ei ffurf Chaldeaidd ydyw Bel (1), a defnyddid ef yn yr amseroedd Caldeaidd; Esa. xlvi. 1; Ier. li. 44; ac yn Llyfr Bel. Cyfieitha y Deg a Thrigain ef yn Bel (BA) neu Belos (Bnλog), yr hwn a ddefnyddir yn gyffredin gan Josephus. Y ffurf olaf ydyw yr un cyffredin yn mhlith y Caldeaid a'r Persiaid; a defnyddir ef yn fynych gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid yn lle Baal, y ffurf mwyaf arferedig yn mhlith y Canaaneaid. Ei ystyr cyntaf ydyw yr un âg Arglwydd neu Duw (Adonis, Deus); eto mae iddo ystyr culach am dduw y Pheniciaid, y Carthaginiaid, y Numidiaid, a'r gwahanol drefedigaethau Pheniciaidd; ac am Dduw y Babiloniaid, dan yr enw Bel. Defnyddir y lluosog, Baalim (by), naill ai am y gwahanol allorau neu golofnau a godid iddo, neu ynte i arwyddo gwahanol dduwiau penodol, megys Baal-Berith, &c. Dengys y lluaw's dinasoedd a adnabyddid wrth yr enw Baal gyda rhyw attodiad gwahaniaethol, megys Baal-Gad, &c., fod addoliad y duw hwn yn gyffredinol iawn. Fod y gair yn cael ei ddefnyddio yn enw rhyw dduw penodol sydd eglur oddi wrth yr anghreifftiau o'r gair gyda'r banod o'i flaen, yn dynodi duw neu Baal neillduol; Barn. ii. 13 (ó Baaλ, ac ǹ Baad; ler. xix. 5; xxxii. 35; Rhuf. xi. 4). Yn ol y gwahanol ansoddau a briodolai yr henafiaid i'r duw hwn, yr ystyrid ef yn dduw yr Haul, Zeus, Jupiter, Heracles, Cronos, a Mars; neu ynte, rhyw frenin wedi ei ddwyfoli. Yr oedd llawer o elfenau addoliad Baal yn gyffredin iddo, a hen addoliadau paganaidd yn gyffredinol, fel y mae yn anhawdd casglu oddi wrth ddefodau ei addoliad pa fath dduw yr ystyrid ef. Offrymid aberthau iddo, rhai diwaed; Hos. ii. 8, 13, 17: ac hefyd rhai gwaedlyd; 1 Bren. xviii. 23: arogldarthid iddo hefyd; Ier. vii. 9; xi. 13; xxxii. 29: anrhydeddid ef hefyd trwy blygu ger ei fron a'i gusanu (1 Bren. xix. 18), yr hyn oedd yn arferiad cyffredin iawn mewn addoliad gau dduwiau, fel y gellir casglu oddi wrth y geiriau a ddefnyddir am addoli; sef рoσкvvv-cusanu tuag at; ac adorare cyffwrdd â'r gwefusau.

Gellir dosbarthu addoliad Baal i bedwar cyfnod; Y cyntaf, fel yr hanfodai yn mysg y Pheniciaid, y Sidoniaid, a'r Carthaginiaid. Cyfateba y cyfnod hwn âg amser arosiad yr Israeliaid yn yr Aipht. Prif nodwedd ei wasanaeth y pryd hwn oedd absennoldeb delwau, ac addoliad natur, yn yr hyn y cyssylltid Baal âg Astarte. Yn nechreu

BAAL

y cyfnod nesaf yr ydym yn eu cael yn gyssylltiedig â'u gilydd; Barn. ii. 13; x. 6; I Sam. vii. 4; xii. 10. Nid oedd delwau yn ngwasanaeth addoliadol hen drigolion Tyrus, Carthage, Gades, nac ychwaith yn Babilon [Herodotus i. 181.] Yr ydoedd eu haddoliad yn bur, o'i gymharu âg oesoedd diweddarach, heb ei halogi gan y fath anniweirdeb. I symlrwydd y tymmor yma y perthyna yn benaf yr arferiad o aberthu ar yr uchelfeydd; Num. xxii. 41; xxiii. 28, 29, 30. Yn ddiweddarach codwyd allorau i Baal; 2 Cron. xxxiv. 4; Ier. xi. 13. Aberthid dynion iddo yn awr, a pharhaodd yr arferiad hwn yn rhai o drefedigaethau y Pheniciaid, megys Carthage, am dymmor maith: yn enwedigol, aberthid plant iddo; Ier. xix. 5; a dywed Eusebius [De laud Const. i. 4] fod y Pheniciaid yn aberthu eu cyntafanedig i Cronos bob blwyddyn. Yr un duw oedd Cronos a Baal. Galwai y Canaaneaid y Baal hwn, yr aberthent blant iddo, Moloch (brenin) neu Baal Moloch; 2 Bren. xxv. 10; Ier. xxxii. 35. Gwnai yr offeiriaid doriadau yn eu cyrff er anrhydedd eu duwiau, fel peth a wasanaethai yn lle aberthu dynion; 1 Bren. xviii. 28. Aberthent waed dynol i'w duw. Er nad oedd delwau cerfiedig yn arferedig yn y tymmor boreuol hwn, eto yr oedd colofnau; a thybir mai yn yr ystyr hwn y mae deall y gair delwau (matsefoth) yn y manau canlynol:-1 Bren. xiv. 23; 2 Bren. iii. 2; x. 26; xviii. 4; xxiii. 14; Mica v. 13; 2 Cron. xiv. 3; xxxi. 1. Felly y cyfieithir ef yn y manau canlynol-Gen. xxviii. 18; xxxi. 13; Exod. xxiv. 4; i arwyddo colofnau coffadwriaethol. Y mae y gair hefyd yn gyfystyr â'r gair a gyfieithir yn y manau canlynol, ar ymyl y ddalen, "haul-ddelwau" (chemonim); Esa. xvii. 8; xxvii. 9; ac sydd yn "haul-ddelwau" yn y testyn, Ezec. vi. 4, 6. Gwelir hefyd, wrth gymharu yr adnodau canlynol, fod y ddau air o'r un ystyr; 2 Bren. xxiii. 14; 2 Cron. xxxiv. 4: 2 Cron. xiv. 5.

Mae ail gyfnod addoliad Baal yn ymestyn o amser Iosuah hyd amser Hiram. Yn yr adeg yma unwyd Baal âg Astoreth; Barn. iii. 7. Yr hynodrwydd a berthynai i addoliad y tymmor hwn oedd ei anniweirdeb a'i odineb. Yr oedd hyn yn enwedig yn addoliad Astoreth; yr ydoedd hefyd yn nglŷn âg addoliad Baal, dan yr enw Baal-Peor; Num. xxv. 1; xxxi. 16; Ios. xxii. 17. Yr oedd anniweirdeb hefyd yn rhan o wasanaeth Bel yn Babilon; Herod. i. 181. Hyn hefyd oedd nodweddiad yr addoliad yn Carthage, fel y tystia Awstin [De Civ. Dei, iv. 10].

Cyrhaedda y trydydd tymmor o wasanaeth Baal, o amser Hiram yn Syria, o amser Ahab yn Israel, ac o amser Ahaz yn Iudah, hyd amser ei ddinystr yh Israel trwy y prophwydi, a thrwy y Lefiaid yn Iudah; 2 Cron. xxix. 5. Nodweddiad y cyfnod hwn oedd cyfundrefn o ddelwaddoliaeth

orwych a mawreddus. Yr oedd ei phrif eisteddle yn Tyrus. Yma yr oedd Bal, Belus, Beelsamen, y prif dduw. [Josephus Ant. viii. 13. 1; ix. 6. 6.] Ar ol i ddylanwad yr addoliad hwn yn ei wedd bresennol gyrhaedd Israel, yr ydym yn cyfarfod âg offeiriadaeth luosog yn ngwasanaeth Baal. Yr oedd pedwar cant a hanner o offeiriaid yn Israel yn unig, a phedwar cant yn Astaroth; 1 Bren. xviii. 17: gyda y rhai hyn yr oedd llawer o brophwydi a gweision; 2 Bren. x. 19: yn ychwanegol at y rhai hyn yr oedd y rhai a ymgyssegrent i halogrwydd, ac a elwir "gwŷr Sodomaidd;" 1 Bren. xiv. 24; xv. 12; Deut. xxiii. 17, 18. Crybwyllir hefyd am demlau i Baal; 1 Bren. xvi. 32; 2 Bren. x. 21. Yr oedd temlau i'r duw hwn er yn fore yn Tyrus a Babilon, &c; ond cododd Hiram rai yn meddu mwy o wychder a newydd-deb yn eu lle [Jos. Ap. i. 18].

Nodwedd neillduol y pedwerydd cyfnod, sef y Caldeaidd, oedd y delwau cerfiedig a wnaed i Baal. Talpiau anghelfydd a ddefnyddiwyd gyntaf i'w gynnrychioli; ac mewn gwahanol oesoedd mae yn debyg fod delwau o wahanol ffurf a gwneuthuriad:-dywed Diodorus, fod delw o ddeugain troedfedd o uchder, a mil o dalentau o bwysau. Mae awgrymiadau hen awduron yn cyssylltu delwau o Baal â llun y tarw, o'r hyn lleiaf fod ei ben felly, ac felly gellid casglu mai dan y ffurf hwn yr addolid ef. Yr oedd y ddelw o hono yn Carthage yn meddu breichiau estynedig i dderbyn y plant a fwriedid yn aberth iddo [Diod. 20. 14]. Yr oedd gan y Numidiaid ddelw o hono â'i ben yn pelydru goleuni o'i amgylch. Y rhai hyn ydynt brif nodweddiadau addoliad Baal.

Y mae ymdrechiadau mynych wedi eu gwneyd i ddangos fod y duw a adnabyddid wrth yr enw hwn yr un ag un o dduwiau y Groegiaid. Cyfieithid ef, weithiau, yn Cronos neu Sadwrn; bryd arall, yn Heracles, neu Hercules y Tyriaid, duw amddiffynol y fam ddinas, a'i holl drefedigaethau, ac a elwid yn iaith y Tyriaid eu hunain, Melcarth-brenin y ddinas: weithiau, yn Zeus neu Jupiter, sef Iau; ac hefyd, cyfieithir ef weithiau yn Mars, neu Mawrth. Ond y syniad mwyaf cyffredinol ydyw, mai duw yr haul, neu y duw o ba un y mae yr haul yn amlygiad, fel prif allu y greadigaeth, ydyw; ac mai yn raddol y daeth i arwyddo Iau, neu Sadwrn-ar ol i'r ser ddyfod yn wrthddrychau mwy amlwg yn addoliad y bobl. Felly, nid y syniad cyntaf am Aschera, y dduwies Sidonaidd, oedd ei bod yr un a'r blaned Gwener; ond yr un a'r lleuad, ac a Gwener yn nesaf. Efallai fod y gair Baal, yn unol â'i ystyr wreiddiol, yn enw ar y gwir Dduw, yn meddyliau y rhai oedd yn glynu wrth grefydd y patriarchiaid cyntaf, megys Noah; ond yn absennoldeb dadguddiad, a than ddylanwad elfenau llygredigaeth, oedd yn peri eu bod yn gwyro fwyfwy yn eu syniadau am dano, trosglwyddwyd yr enw i wrthddrychau gweledig; ag yn gyntaf oll i'r haul, fel y mwyaf gogoneddus, ac arglwydd y dydd a'r flwyddyn. Nid yw yn annhebyg fod y Derwyddon yn ystyried yr haul yn gynnrychiolydd y Creawdwr, ac y cynnalient eu gorseddau ar ei albanau. Dywed Sanchoniathon, fod y Pheniciaid yn addoli yr haul fel unig arglwydd y nefoedd, yr hwn a alwent Beelsamen, a'i fod yr un a Zeus y Groegiaid; ac yn ol Awstin, yr ydoedd yr un a Baal. Yn y dinasoedd Tyriaidd, Heliopolis, Palmyra, Edessa, &c., cyfieithai y Groegiaid y Baal a berthynai iddynt wrth yr enw Helios-haul. Yr oedd cyssylltiad Baal ac Astaroth â'u gilydd yn cynnrychioli yr

[ocr errors]

haul a'r lleuad, fel dau brif allu llywyddol y greadigaeth. Yr oedd yr "haul-ddelwau," sef y colofnau a godwyd i'r haul, yn fath o fynegbyst i ddangos, trwy gysgod yr haul, oriau y dydd, ac felly yn gyssegredig i'w wasanaeth. Yr oedd hyn hefyd yn arferiad yn yr Aipht, ac yn yr America. Yr oedd y ddelw o Baal a ddysgrifir fel yn pelydru goleuni oddi wrth ei ben, fel yr un a grybwyllasom o Numidia, yn arwyddlun priodol a chyffredin am yr haul; a dangosai y ddelw a ddaliai rawnwin a phomgranadau yn ei dwylaw, ei nerth ffrwythlonawl.

Nid yn unig cyfansoddid enwau dinasoedd o'r gair Baal, megys y gwelir uchod, ond enwau dynion hefyd: gan hyny, y mae genym Ethbaal

gyda Baal, enw un o freninoedd y Sidoniaid (1 Bren. xvi. 31), yr hwn a eilw Josephus, 106Baλvg: Ierubaal-Baal a'i gwel: Hannibal gras Baal: Hasdrubaal=cymhorth Baal, &c. Cyfansoddai y Groegiaid hefyd enwau dynion a Duw yn gymmysg, megys Theophilus, Theodorus, Timotheus, &c.; ac y mae ei olion yn mhlith yr Ellmynwyr-Gottlieb, Gotthoed, Fürchtegott; ac felly agos yn mhlith pob cenedl ar y ddaiar.

Yr oedd temlau ac allorau Baal yn cael eu hadeiladu yn gyffredinol ar benau y bryniau, mewn coedwigoedd, ac ambell waith ar benau tai; ler. xxxii. 35; 2 Bren. xvii. 16; xxiii. 12; Hos. iv. 13: yr oedd muriau oddi amgylch iddynt, lle yr oedd tân parhaus yn llosgi, ac yr oedd delwau yn rhai o honynt, y rhai a elwir yn yr ysgrifeniadau cys segredig yn chemonim. Cymmerodd Balac Baalam i "fyny i uchelfeydd Baal, fel y gwelai oddi yno gwr eithaf y bobl;" Num. xxii. 41. Dywed Maundrel, yn ei daith o Aleppo i Ierusalem, ei fod ef wedi gweled rhai olion o'r allorau cauedig yma yn Syria. Yr oedd addoliad Baal yn gofyn am rifedi mawr iawn o offeiriaid, y rhai a ddawnsient o gylch yr allor fel gwilliaid, gan dori eu hunain â chyllyll; cymmerent arnynt hefyd fod yn brophwydi, fel pe buasent yn feddiannol ar ryw allu anweledig. Y mae tori â chyllyll yn arferiad cyffredinol gan offeiriaid y gau dduwiau. Dywed Plutarch [De Superstitione] fod offeiriaid Bellona yn gwneuthur hyn. Dywed Herodotus hefyd fol y Magi Persiaidd yn cymmeryd arnynt ostegu ystormydd, drwy wneuthur toriadau yn eu cnawd. Cawn yr un arferiad gan ganlynwyr Astarte neu Astaroth, ac yn nefodau Isis a Cybele. A hyd yn oed yn y dyddiau presennol, dywed haneswyr fod penboethiaid yn Twrci, Persia, &c., y rhai a gredant ei bod yn weithred gymmeradwy gan Dduw iddynt ddryllio eu cyrff fel offeiriaid Baal, tra y mae Duw yn bendant yn gwahardd hyn i'r offeiriaid Iuddewig; Lef. xxi. 5; Deut. xiv. 1.

Y mae genym hanes cywir o addoliad Baal yn 1 Bren. xviii; lle y cawn i Dduw ateb Elias trwy dân, er gwarthrudd a dinystr i brophwydi Baal, ar ben Carmel, nid yn mhell o For y Canoldir. Yr oedd prophwydi Baal yn bedwar cant a hanner mewn nifer. Un o'r hauesion mwyaf dy ddorol yn llyfr Duw ydyw yr hanes yma. Yn ngwyneb gelyniaeth Ahab a Iezebel, y mae mawredd gwroldeb Elias yn deffro ein parch diledryw, a'i hyder yn Nuw ei dadau yn ei gyflwyno i'n serch mwyaf calonog. Er holl anfan teision gŵr Duw, cafodd ateb, wedi hir a llwyr fethu o brophwydi Baal:

"Ar eres air yr Ion seirian-rhwygid
Awyrgylch pedryfan;
Disgynai, melltenai tân,
A ffrydiai'n gorff eiriasdan.

Gan y tân a'i egnïad terth-dryllid

Yr allor a'r aberth;

Lluchid oll y lluwch diwerth
I'rentyrch ar yr anterth."

Y mae y wyrth effeithiol yma, er nad arddangoswyd ei bath i neb ond yr Iuddewon, yn cael ei chrybwyll gan lawer o'r hen awdwyr clasurol: yr hyn sydd yn un o'r enghreifftiau Iluosog i gadarnhau yr undeb agos a fodola rhwng hanesiaeth baganaidd a chyssegredig. Y mae Homer yn dangos Iau fel yn sicrhau llwyddiant i'r Groegiaid yn y dull yma, pan yr oeddynt yn cychwyn i ryfel Caerdroia: ac yn ei Eneid, y mae Virgil yn rhoddi y geiriau canlynol yn ngenau Latinus:-"Bydded i'r Tad nefol, yr hwn sydd yn sefydlu y cyfammodau â tharan, glywed yr hyn a ddywedir genyf." Dywed Pausanius wrthym, pan yr oedd Seleucus, yr hwn a aeth gydag Alexander Fawr yn ei ruthrgyrch i Macedonia, yn aberthu i Iau yn Pella, i'r coed ddyfod at y ddelw o honynt eu hunain, ac iddynt gynneu heb dân. Y mae haneswyr hefyd, medd Calmet, yn dywedyd, i Vespasian, pan yn Iudea, fyned i ymgynghori â Duw Carmel, ac nad oedd yno y pryd hwnw ond un allor syml a hen iawn. Er fod y wyrth ryfeddol yma wedi gadael argraff ddofn ar draddodiadau eilunol yr oesoedd, ni chafodd ond argraff amserol a byr ar Israelymhalogasant gydag eilunaddoliaeth Baal o bryd i bryd, nes iddynt gael eu cario i gaethiwed.

1. BAALAH, [ei deulu, neu yr hon a lywodraethir, priodasferch]: Ciriath-Baal, neu Ciriathiearim; Ios. xv. 9.

2. BAALAH: dinas a ranwyd i lwyth Iudah, ond a gymmerwyd oddi wrtho, i'w rhoddi i'r Simeoniaid; Ios. xv. 29; xix. 3.

BAALATH, [nbya; Deg a Thrigain, reßɛɛλáv]: dinas yn llwyth Dan (Ios. xix. 44), yr hon a ymddengys yr un a'r hon a ail adeiladwyd gan Solomon; 1 Bren, ix. 18. Llawer a dybiasant fod y Baalath hon yr un a Baalbek: os felly, dylasai fod yn rhandir gogleddol Dan; tra y dywedir ei bod yn meddiant llwyth Dan pan nad oedd ganddynt ond rhandir yn neheudir Iudah yn unig; ac yn mhell cyn eu mynediad i chwilio am feddiannau ychwanegol y sonir am dani yn Barn. xviii. Y mae Josephus hefyd yn nodi sefyllfa Baalath Solomon, yr hon a eilw efe Baleth, fel yn neheudir Palestina, yn agos i Gazara [Hen. viii. 2], o fewn y rhandir a berthynai i Dan, pe buasai mewn meddiant o'r tiroedd a nodwyd gyntaf i'r llwyth hwnw. Y mae y Talmud yn cadarnhau fod Baalath yn sefyll mor agos i linell terfyn rhandiroedd Iudah a Dan, fel nad oedd ond y meusydd yn unig yn Dan, a'r adeiladau yn Iudah. (Kitto's Cycl.)

BAALATH-BEER: lle a enwir fel terfyn llwyth Simeon i'r deheu: efallai mai yr un ydyw a'r ddinas flaenorol; Ios. xix. 8; 1 Cron. iv. 33. Rhai a dybiant mai yr un yw a Ramoth; 1 Sam.

XXX. 27.

BAAL-BEK, neu BALBEK. Gwel BAAL

GAD.

BAAL-BERITH, neu BAAL-B'RITH, [arlwydd y cytundebau, neu y cyfammodau]: yr un, o ran ei ystyr, a ZEUG OORLOG y Groegiaid, a Deus Fidius, neu Dduw Ffyddlawn, y Rhufeiniaid: efallai mai yr un ydyw hefyd a Beryth, neu Beroe,

y Pheniciaid, mab eu Adonis hwynt. Nid yw yn sicr pa un ai yr un yw hwn a Baal, ai peidio, neu ynte rhyw dduwdeb israddol. Gan nad beth am hyny, yr oedd yn dduw a gydnabyddid dan yr enw hwn gan y Carthaginiaid a'r Pheniciaid yn eu cytundebau; ac oddi yma y mae yn cael ei enw, arlwydd y cyfammod. Dyma yr eilun a addolid yn Sichem, wedi marwolaeth Gideon; Barn. viii. 33, lle yr ymddengys mai duw newydd ydoedd, a'i fod yn un o'r Baalim. Barna yr esgob Patrick, fod Baal-Berith yn cael ei alw felly, naill ai o herwydd mai efe oedd y Duw a dybid oedd yn cospi y rhai a dorent eu cyfammodau, neu ynte, o herwydd fod ei addolwyr yn cytuno yn eu plith eu hunain i gynnal ei addoliad. Ymddengys unoliaeth rhwng y golygiad olaf yma a Barn. ix. 4. Tybir hefyd mai yr un yw BaalBerith, a Ham, neu Cronos, yr hwn a addolid gynt yn Berytus. Y mae Bryant, yn ei Gyfriniaeth Henafiaethol, yn dywedyd mai un o dduwiau y Canaaneaid ydoedd, addoliad yr hwn yn fuan a gymmerwyd i fyny gan Israel wedi eu sefydlu yn Nghanaan.

BAAL-GAD, [bya; Gr. Baλayád]: dinas "yn nglyn Libanus, dan Fynydd Hermon;" Ios. xi. 17; xii. 7). Hysbysir ni hefyd fod "holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal-Gad, dan Fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath" (Ios. xiii. 5), yn mysg y rhanau hyny o Palestina, y rhai na orchfygwyd gan yr Iuddewon ar farwolaeth Iosuah. Gellir ty bio oddi wrth y sefyllfa yma a roddir i Baal-Gad, y gallai mai yr un ydoedd a'r lle hwnw a alwyd gan y Groegiaid yn Heliopolis

dinas yr haul, oddi wrth deml oedd yno wedi ei chyssegru i'r haul; a'r hon a alwyd, ac a elwir eto gan y preswylwyr, Baalbek-gair a ymddengys o'r un ystyr. Ceisiwyd profi gan rai mai yr un oedd Baalbek a Baalath, yr hon a adeiladwyd ac a amgaerwyd gan Solomon; ond dangoswyd eisoes mai nad ê [gwel BAALATH]: ac nis gellir dodi unrhyw bwys ar y traddodiadau lleol, y rhai sydd yn hòni fod Baalbek wedi ei sylfaenu gan Solomon; canys yr oedd yn arferiad gan y trigolion i briodoli pob gwaith henafol a nodedig, nad oes gyfrif am ei ddechreuad yn yr holl wlad, i Solomon. Y mae hyd yn oed y rhai a haerant mai yr un yw Baal-hamon y Caniadau (viii. 11), a Baalbek, yn tybio mai enw diweddar ydyw am Baal-Gad; a chan hyny, yr unig ymofyniad a all fod yw yr un canlynol:-Ai nid yw Baal-Gad yn enw henach ar y lle hwn, ac iddo gael ei alw wedi hyny yn Heliopolis, a Baalbek?

Y mae Baalbek, yn yr iaith Syriaidd, yn arwyddo dinas Baal neu yr haul; ac yn gymmaint nad yw y Syriaid un amser yn benthyca enwau gan y Groegiaid, nac yn cyfieithu enwau Groegaidd, y mae yn amlwg felly i'r Groegwyr, ar eu dyfodiad i Syria, gael y lle yn dwyn yr enw hwn neu enw arall yn arwyddo "dinas yr haul," yn gymmaint ag iddynt hwy ei galw yn Heliopolis, yr hwn, y mae yn debyg, sydd gyfieithiad o'r arwyddocâd brodorol. Nid ydym yn ammheu na elwid hi y pryd hwnw yn Baalbek gan y trigolion. Yn awr, yr ymofyniad ydyw-A oes yr un ystyr i'w roddi i'r gair hwn ag i Baal-Gad? ac os nad oes, a ellir nodi rhai amgylchiadau a allent beri cyfnewidiad yn yr enw? Os cymmerir Baal fel enw eilun, yna, fel yn Baalbek, y mae rhan olaf y gair i'w gymmeryd fel gair dysgrifiadol, ac nid fel enw cadarn: ac yn gymmaint a bod Gad yn arwyddo llu, tyrfa, neu haid o bobl, yna, Baal-Gad a arwydda llu Baal, pa un bynag a arferir ef am

y preswylwyr, ynte am y lle fel cynnullfa pererinion. Y mae i'r sill bek yr un ystyr yn gymhwys yn yr Arabaeg.

Os nad ymddengys hyn yn foddhaol, gellir penderfynu fod y gair Baal yn rhan mor fynych yn nghyfansoddiad enwau priodol, fel nad yw yn ddigon penodol i oddef y cyfryw ddeongliad; ond y gellir yn hytrach ei gymmeryd i arwyddo (fel y dywed Gesenius ei fod bob amser pan mewn undeb â gair arall) y lle, neu y fan y cyfarfyddir â pheth: felly, arwydda Baal-Gad, lle Gad. Yn awr, yr oedd Gad yn eilun (Esa. lxv. 11, llu, niferi), duw neu dduwies tynged, yn ol fel y tybir (cymharer y Deg-a-Thrigain, Túxn; Vulg., Fortuna); ac fe sonir am dano gan yr esbonwyr Iuddewig fel yr un a'r blaned Iau [GAD]. Ond y mae yn ddigon hysbys fod Baal yn cael ei gyfrif yr un a Iau yn gystal a'r haul; ac nid yw yn anhawdd cyssylltu Baalbek gydag addoliad Iau. Y mae Ioan o Antiochia yn dywedyd yn gadarn fod teml fawr Baalbek wedi ei

neillduo i Iau; ac yn yr adran nodedig o Macrobius (Saturnal i. 23), yn mha un yr adrodda fod addoliad yr haul wedi ei ddwyn gan offeiriaid Aiphtaidd i Heliopolis yn Syria, y mae yn dywedyd eu bod yn ei gyflwyno dan enw Iau (sub nomine Iovis). Y mae hyn yn arddangos fod addoliad Iau wedi ei sefydlu, ac yn boblogaidd yn y lle, ac nad oedd hauladdoliaeth yno cyn hyn: gan hyny, gallem ddysgwyl yn hytrach, i enw blaenorol y dref ddwyn rhyw berthynas âg Iau nag â'r haul; a gallwn fod yn sicr fod enw arwyddol o hauladdoliaeth yn ganlynol i gyflwyniad yr addoliad hwnw gan yr Aiphtiaid. Ac yn gymmaint nad oes genym unrhyw sail i dybied fod hyn wedi cymmeryd lle cyn, nac hyd yn oed yn mhell ar ol amser Iosuah, ni elwid y fan felly y pryd hwnw wrth un enw oedd yn cyfateb i Heliopolis.

Cyffyrddasom â'r mater hwn, gan ei fod yn dwyn perthynas â'r pwnc yn ei gyssylltiadau ysgrythyrol; yr hyn nid yw yn cael ond ychydig

[graphic][subsumed][merged small]

o sylw mewn llyfrau cyffredin o natur y llyfr hwn. A chyfeiriwn ein darllenwyr at y rhestr o lyfrau a nodir ar ddiwedd yr erthygl hon am ddarluniadau a hysbysiadau boddhaol am yr adfeilion, &c., pa rai ni ofynant ond am sylw byr yma, yn gymmaint ag nad yw yn debygol fod hyd yn oed sefyllfa y lle yn cael ei enwi yn yr Ysgrythyrau.

Y mae Baalbek yn sefyll ar le hyfryd, ar ddisgyniad isaf Anti-Libanus, wrth y fan lle y mae dyffryn bychan yn ymagor i wastadedd El-Bakaa. Rhed afon fechan trwy y dyffryn hwn, yr hon sydd wedi ei rhanu yn aberoedd dirifedi, er dyfrhâu y tiroedd. Y mae sefyllfa y lle yn lledred gogleddol, 34° 1' 30", a hydred dwyreiniol, 36° 11' -109 o filltiroedd daiaryddol o Palmyra, a 38 o Tripoli.

Y mae yr hanes am ddechreuad Baalbek wedi ei lwyr golli, ac y mae y crybwyllion hanesiol am dani yn dra phrin: hefyd, y mae dystaw

rwydd yr ysgrifenwyr clasurol am y lle yn peri tybiaeth ei bod yn flaenorol yn adnabyddus dan enw arall. Yn gymmaint ag na cheir unrhyw hysbysrwydd mwy penderfynol, gellir tybied, yn gymmaint a bod sefyllfa y lle ar brif-ffordd trafnidiaeth rhwng Tyrus, Palmyra, a'r Dwyrain draw, fod hyny wedi gweini yn fawr tuag at ennill ei chyfoeth a'i gwychder. Crybwyllir an dani, o dan yr enw Heliopolis, gan Josephus [Henaf. xiv. 3, 2], ac hefyd gan Pliny [Hist. Nat. x. 22]. Y mae cerfiadau Rhufeinig, er amser Antoninus Pius, yn cadarnhau adroddiad Ioan o Antiochia, yr hwn sydd yn hòni fod yr ymherawdwr hwn wedi adeiladu teml fawr i lan yn Heliopolis, pa un a gyfrifid yn un o ryfeddodau y byd.-[Hist. Chron. llyfr xi.] Yr ydym yn deall oddi wrth rai bathau Rhufeinig, fod Heliopolis wedi ei gwneuthur yn drefedigaeth gan Julius Cæsar, a'i bod yn safle gwarchodlu Rhufeinig yn amser Augustus; a chafodd yr enw o Jus Italicum

« PrécédentContinuer »