Images de page
PDF
ePub

helaeth, nes o'r diwedd yr ennillodd fath o ddylanwad ar yr holl urddau mynachaidd. Sylwai gyda'r manylder mwyaf ar reolau Benedict; a chwanegwyd at y rhai hyny amryw reolau a dueddent i goledd iawn drefn a dysgyblaeth yn yr urdd. Yr oedd y rheolau hyn, a chwanegwyd ganddi at y rhai blaenorol, o'r fath fwyaf manwl allym-bron yn rhy gaethiwus i natur eu goddef -ond ystyrid hwynt yn anhebgorol angenrheidiol gan luaws mawr yn yr oes ofergoelus hono. Ni ddarfu iddynt, pa fodd bynag, er mor lymdost oeddynt, sicrhau purdeb ac iawn drefn yn mysg y deiliaid; o blegid nid hir y bu cyn i dwyll cyfoeth, ac ariangarwch, ei llygru a'i darostwng i'r un annhrefn ag urddau cyfoesol ereill. Llaciodd yn fuan yn ei rheolau, a daeth mor esgeulus a didrefn ag urddau ereill y Benedictiaid. Adferwyd hi i raddau, yn ei threfn a'i dysgyblaeth, gan Stephen Harding, brodor o Loegr, yr hwn oedd y trydydd abad ar fynachdy Cîsteaux, ac a ystyrir gan rai fel prif sylfaenydd y Bernardiaid. Gelwid hwy yn Fynachod Gwynion, oddi wrth liw eu dillad.

Adeiledid mynachdai yr urdd hon, yn gyffredin, mewn lleoedd anial a diffaeth, yr un modd a'r mynachdy cyntaf a berthynai iddi; a chyflwynid hwynt i'r Forwyn Fair. Yr oedd yn rheol gan y Bernardiaid i beidio caniatau i un tŷ, hyd yn oed o'u hurdd eu hunain, gael ei adeiladu yn agos at eu mynachdy. Dywed Stevens, fod ganddi-os rhoddwn gred i haneswyr yr urdd— rhwng pob gwlad, chwe mil o dai yn ei meddiant a'i gwasanaeth. Ac adeiladodd Bernard ei hun drigain o abattai. Dygwyd y Bernardiaid i Brydain o Abatty Aumone, yn Normandy, yn 1128, gan Walter Giffard, esgob Caerwynt, yr hwn a'u gosododd yn Abatty Waverley, yn Surrey.

Yn nheyrnasiad Harry VIII. yr oedd yn y deyrnas hon drigain a phymtheg o fynachdai, a chwech ar ugain o leiandai, yn perthyn i'r urdd hon; ac yr oedd cyllid yr holl sefydliadau hyn yn gymmaint a 18,691 p. 12s. 6c.

Tynwyd rheolau cyntaf yr urdd gan Alberic, yr hwn a ddaeth yn abad Cisteaux, yn 1099. Y mae yn y British Museum gyfrol mewn llawysgrif, o'r pedwerydd canrif ar ddeg, yn cynnwys casgliad arall o reolau i'r urdd, a wnaed yn y blyneddoedd 1289 a 1300. Gwel BERNARD.

1. BERNICE, [Bepvin]: un o wragedd Ptolemy 1., brenin yr Aipht, a mam Ptolemy Philadelphus. Buasai ganddi fab o ŵr blaenorol, yr hwn a ddaeth yn frenin Cyrene.

2. BERNICE: merch Ptolemy Philadelphus ac Arsinoe. Rhoddwyd hi yn wraig i Antiochus II., brenin Syria, yr hwn a fwriodd ymaith ei wraig Laodice ar yr achlysur. Ar ol marwolaeth Philadelphus, bwriodd Bernice ymaith, a chymmerodd Laodice yn ol, yr hon a wenwynodd ei gŵr, ac a roddodd Bernice, a mab oedd ganddi o Antiochus, i farwolaeth. I ddial marwolaeth ei chwaer, goresgynwyd Syria gan Ptolemy III., rhoddwyd Laodice i farwolaeth, a thaflwyd y Seleucidiaid o'r llywodraeth.

3. BERNICE: gwraig Ptolemy III. Dywedir am dani, ei bod wedi gwneyd adduned o'i gwallt tra yr oedd ei gŵr yn ymladd yn Asia. Yn ol yr adduned, gosodwyd ei gwallt ar nen teml Gwener, o'r lle y dygwyd ef; a dywed Conon o Samos, ei fod wedi ei gymmeryd i'r ffurfafen, a'i osod yn mhlith y saith seren yn nghynffon y llew. Ysgrifenodd Callimachus ganig dlos ar yr achlysur,

yr hon sydd yn adnabyddus yn awr yn unig trwy gyfieithiad Catullus o honi.-De Coma Berenices. Dygwydda enw Bernice yn y bummed linell yn nghareg Rosseta, yn y British Museum, gyda ffurf fenywaidd enw ei gŵr, "Euergetes."

4. BERNICE: unig blentyn cyfreithlawn Ptolemy VIII-a deyrnasodd chwe mis. Llofruddiwyd hi, medd Porphyry ac Appian, gan ei gŵr, Alexander 11., yn mhen deunaw niwrnod ar ol eu priodas.

5. BERNICE: merch Ptolemy Ix., a chwaer i Cleopatra. Ymbriododd yn gyntaf â Seleucus, mab honedig Antiochus Ensebes, yr hwn oedd ddyn eiddil, ac a dagwyd yn ol ei gorchymyn hi; priododd wedi hyny âg Archelaus, yr hwn hefyd a roddwyd i farwolaeth ar adferiad ei thad i'r orsedd.

6. BERNICE: merch henaf Agrippa L, a chwaer Herod Agrippa 11.: Act. xxv. 13, 23, 26, 30. Priododd â Herod, brenin Chalcis, ei hewythr: ar ol ei farwolaeth, er mwyn diane rhag y dybiaeth o gyfeillach anghyfreithlawn gyda ei brawd, daeth yn wraig i Polemon, brenin Cilicia. Torwyd yr undeb hwn yn fuan, a dychwelodd at Agrippa. Yn ganlynol, ymserchodd Titus, mab Vespasian, ynddi. Ar ol dinystr Ierusalem, daeth i Rufain; a dywedir fod Titus mor hoff o honi fel yr addawodd ei phriodi. Ond ar farwolaeth ei dad, anfonodd hi o Rufain, yn dra anewyllysgar, am fod yr undeb bwriadol yn anfoddhaol i'r bobl.

BEROSH, [2]: y gair Hebraeg am "ffynidwydd" mewn amrywiol ranau o'r Ysgrythyr; megys yn 2 Sam. vi. 5; 1 Bren. v. 8; vi. 15, 34; ix. 11; 2 Bren. ix. 23; 2 Cron. ii. 8; iii. 5; Salm civ. 17; Esa. xiv. 8; xxxvii. 24; xli. 19; lv. 13; lx. 13; Ezec. xxvii. 5; xxxi. 8; Hos. xiv. 8; Nah. ii. 3; Zech. xi. 2. Yn Can. i. 17, y mae y gair Beroth, yr hwn, fel y tybir, nid yw namyn y dull Arameaidd o gynanu yr un gair, yn cael ei gyfieithu "ffynidwydd;" "Swmerau ein tai sydd gedrwydd; ein distiau sydd ffynidwydd." Yn y rhan fwyaf o'r adnodau ereill, y mae eres a berosh, a gyfieithir "cedrwydd" a "ffynidwydd," yn cael eu crybwyll yn nghyd; megys 1 Bren. v. 8; "A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd:" ac Esa. xiv. 8; "Y ffynidwydd hefyd, a chedrwydd Libanus, a lawenhasant yn dy erbyn." Ond y mae Rosenmüller yn sylwi, "Yn y rhan fwyaf o'r ymadroddion lle y dygwydda y gair Hebraeg, fe'i darllenir yn y cyfieithiadau Groegaidd a Syriaidd henaf, cypreswydden." Ond ar y llaw arall, barnai Celsius, fod berosh yn dynodi cedrwydd Libanus, a bod eres, yr hwn a gyfrifir yn gyfystyr yn fynychaf, yn dynodi y pinwydd cyffredin. Meddylia ereill, mai y bocs, yr onen, y ferwydden, &c., a ddynodir dan yr enw berosh.

Y mae y gair berosh, neu beroth, yn cael ei amrywio ychydig yn y cyfieithiadau Syriaidd a Chaldeaidd: yn y cyntaf fe'i ysgrifenir berutha, a berath yn yr olaf. Y mae y rhai hyn oll yn dwyn perthynas agos â bruta, enw y planigyn eithinaidd, a elwid gan y Groegiaid, brathu, brathun, a barathous; a'r hwn a gyfnewidiwyd gan yr Arabiaid i burasee a buratee. Fe'i cymhwysir ganddynt hwy at rywogaeth o ferwydden, yr hon a alwant abhul, ac arus neu orus. Ymddengys i ni fod yn rhaid ystyried amryw o'r enwau yma yn gynrywiol, yn hytrach na hysbysol, yn ol yr ystyr diweddar, pan arferir y fath ofal er

Fel

gwahaniaethu rhywiau gyda manyldra. hyn, y mae arus, a gymhwysir gan yr Arabiaid at ferwydden, yn dynodi pinwydden yn yr Ysgrythyr, pa un bynag a wnawn ai dilyn y golygiad cyffredin a'i ystyried yn arwyddo y cedrwydd, neu gymmeradwyo golygiad Celsius, mai y binwydden gyffredin a ddynodir. Felly, gallasai buratee fod yn cael ei gymhwyso gan yr Arabiaid, &c., nid yn unig at yr amrywiaethau o feryw, ond hefyd at blanwydd cyffelyb iddynt, megys y cypreswydd. Gan hyny, mewn amryw o'r amgylchiadau hyny, lle nis gallwn ni ganfod unrhywiaeth trwyadl, neu gyffelybrwydd enw, rhaid i ni gymmeryd ein harwain gan natur y coed, y gwasanaeth i'r hwn eu defnyddid, a'r sefyllfaoedd yn y rhai y dywedid eu cael. Felly, gan ein bod yn canfod yr eres a'r berosh wedi eu cyssylltu mor gysson yn yr Ysgrythyrau, gallai fod y cyntaf yn dynodi y gedrwydden a'r binwydden wyllt, tra y gallai fod yr olaf yn cynnwys cenedl y merwydd a'r cypreswydd.

Y mae rhai llysieuwyr wedi rhestru yr amrywiol rywiau o feryw dan y cedr, gan wahaniaethu y gwir rywogaeth dan yr enw cedrus baccifera

cedr eirinog; a'r pinwydd dan yr enw cedrus conifera cedr conwyddol. O'r meryw, a elwir arceuthos gan y Groegiaid; ac abhul, neu habhel, gan yr Arabiaid, mae amryw rywogaethau yn Syria. O'r rhai hyn, y mae y ferywen gyffredin yn dra gwasgaredig, ac i'w chanfod yn Ewrop ac Asia-yn nyffrynoedd y lledredau gogleddol, a mynyddoedd y deheubarth-yn ffurfio math o fanwydd isel; ond, mewn rhai manau, o 15 i 30 troedfedd o uchder. Fe'i canfuwyd gan M. Bouè ar fynydd Libanus. Y mae rhywogaeth arall, a elwir y ferywen amffrwythol (juniperus drupacea), yr hon a ddygwyd i Ewrop o'r dwyrain dan yr enw Arabaidd, habhel, ar y cyntaf. Brodor o fynydd Cassius yw y rhyw yma, a thybir mai yr un ydyw a'r ferywen fwyaf, yr hon a ganfu Belon ar fynydd Taurus, ac a ddarlunir ganddo fel yn ymddyrchafu i uchder y cypreswydden. Y fery wen Phoeniciaidd yw merywen fawr Dioscorides, yr hon sydd yn frodorol o ddeheubarth Ewrop, Rwssia, a Syria. Y mae ei dail yn gafnbeithynaidd, ac y mae yn tebygu i'r gypreswydden, ac yn cyrhaedd 20 neu 30 troedfedd o uchder. Y mae rhai rhywogaethau coraidd ereill o'r ferywen, o'r rhai nid oes un angenrheidrwydd i gynnyg rhoddi dysgrifiad yn yr erthygl hon; canys yr unig rywogaethau a allent fod yn berosh yr Ysgrythyr yw y ferywen gedr-bigog (j. oxycedrus) neu y ferywen Phoeniciaidd. Ac y mae rhai o'r farn mai pren y ferywen gedr-bigog, yn hytrach na'r rhai a elwir cedrwydd Libanus, yw y coed cedr oeddynt mor enwog gynt am eu parhâd, ac a ddefnyddid, ar y cyfrif hwnw, i wneyd delwau; ac at goed rhyw fath o ferywen, y cymhwysir yr enw coed cedr yn neillduol yn bresennol.

Cupressus, neu cuparissos y Groegiaid, a suroo yr Arabiaid, yr hon a alwant hefyd shujrut-alhyat, neu bren y bywyd, yw cupressus sempervirens, neu gypreswydden irfyth, llysieuwyr. Adwaenir y pren yma wrth ei ffurf bigfain, am fod ei gangenau yn tyfu yn unionsyth, ac yn agos i'r cŷff; yn ei ymddangosiad cyffredinol, y mae yn tebygu cymmaint i boplys Lombardy, fel y camgymmerir y naill am y llall yn fynych, pan eu canfyddir mewn darluniadau dwyreiniol.

Tyf y

pren hwn i'r uchder o hanner cant neu drigain troedfedd, yn gyffredin, mewn lledredau deheuol. Gorchuddir ei gangenau yn drwchus â dail

au.

rhychog mân iawn, y rhai a arosant ar y pren dros bump neu chwe blynedd. Dywed Du Hamel, ei fod ef wedi sylwi fod gronynau mân o ryw sylwedd gludiog ar risgl cypreswydd ieuaine, ac iddo weled gwenyn yn cymmeryd llawer o drafferth i ryddhau y cyfryw ronynau; yr hwn, efallai, a ddefnyddid ganddynt i ffurfio eu crwybr Y mae y gypreswydden yma yn frodor o'r Ynysfor Groegaidd, yn enwedig o Candia (yr hen Crete), a Cyprus, ac o Asia Leiaf, Syria, a Phersia. Gellir ei gweled ar arfordir Palestina, gystal ag yn y berfedd-wlad, gan fod y Mahometiaid yn arfer ei phlanu yn eu claddfeydd. A chan fod y gypreswydden mor gyffredin fel hyn, nyni a allem ddysgwyl crybwylliadau mynych o honi yn yr Ysgrythyrau; ond nid felly y mae, os barnwn ni wrth ein cyfieithiad awdurdodedig, lle ni chyfarfyddwn â'r enw ond unwaith, yn Esa. xliv. 14; "Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymmer y cypreswydden, a'r dderwen," i wneuthur eilunod. Y gair a gyfieithir "cypreswydden' yma yw tirza; ac nis meddwn unrhyw awdurdod arall dros farnu mai yr un ydoedd a'r cypreswydd.

[ocr errors]

Y mae coed y cypreswydd yn galed, yn beraroglaidd, o lin agos a thlws, yn dra pharhaus, ac o ruddliw hardd, yr hwn ni chyll byth, medd Pliny. Barnai yr henafiaid fod coed y gypreswydden yn dra pharhaus; er prawf o hyn, gellid crybwyll fod Pliny yn tystio am ddelw Iau yn ei deml yn Rhufain, a elwid y Capitol, yr hon a wnelsid o'r coed hyn, ei bod wedi ei gwneyd er's mwy na chwe chan mlynedd, ac nad oedd yr argoel lleiaf o adfeiliad ynddi: a bod dorau teml Diana yn Ephesus, y rhai a wnelsid o'r coed hyn, yn ymddangos yn hollol newydd, pan yn bedwar can mlwydd oed. Defnyddid y coed hyn i amrywiol ddybenion; megys, i wneyd gwingafuau, tylathau, cledrau, &c. Gan hyny, y mae yn amlwg y cyfateba y gypreswydden yn drwyadl i'r holl ddysgrifiadau a gawn ni yn yr Ysgrythyrau o berosh, a'r defnydd a wnelid o hono; canys y mae yn gymhwys i'w defnyddio mewn adeiladaeth, ac o sylwedd tra pharhaus; ac am hyny buasai yn dra thebyg o gael ei defnyddio yn adeiladaeth y deml, ac i wneuthur ei dorau a'i lloriau, ac i wneuthur byrddau llongau, a hyd yn oed offerynau cerdd, a gwaewffyn. Tybiai J. E. Faber, fod yr enw Hebraeg, berosh, yn cynnwys tri rhyw o goed, y rhai a feddent debygrwydd i'w gilydd; sef y gypreswydden irfyth, y thyine, a'r savine. Y mae yr olaf, neu y ferywen Sabinaidd, mor debyg i'r gypreswydden, fel y gelwid hi dan yr enw hwnw yn fynych gan yr henafiaid; ac yn mysg y Groegiaid y mae y ddau bren yn myned dan yr hen enwau dwyreiniol, beros, beroth, brutha, neu brathy.

BEROTHA, neu BEROTHAI [fynnon yr Arglwydd]: un o ddinasoedd y Syriaid, a oresgynwyd gan Dafydd, ac o'r hon y cymmerth efe "lawer iawn o bres." Efallai fod y lle yn enwog am ei fwngloddiau pres. Perthynai i freniniaeth Sobat. Barna rhai mai yr un ydoedd a Bir yr oesoedd diweddar; ac ereill mai yr un ydoedd a Beyrout; ac â'r golygiad olaf y cytunai Rosenmüller. Gelwir y ddinas hon hefyd Chun (1 Cron. xviii. 8) oddi wrth eilun a addolid yno, yr un fel y bernid a Sadwrn y Groegiaid.

BERYL: maen gwyrddlas, tryloew, gwerthfawr. Dyma yr enw a roddir iddo yn nghyfieithiad y Deg a Thrigain a'r Vulgate; ond ei enw

Hebraeg oedd iasphe. Fe'i ceir yn yr India ddwyreiniol, Peru, Siberia, a Thartary. Y mae o ymddangosiad dysglaer, ac yn dryloew yn gyffredin. Hwn oedd y degfed maen a berthynai i ddwyfroneg yr archoffeiriad; Exod. xxviii. 20: a'r wythfed yn seiliau y Ierusalem nefol; Dad. xxi. 20.

BERYLIAID: plaid grefyddol o bobl, a gyfenwid felly oddi wrth un Beryllus, esgob Arabaidd dysgedig yn y trydydd canrif. Efe a ddysgai nad oedd Crist yn bod cyn Mair; ond ddarfod i Ysbryd oddi wrth Dduw ei hunan, cyfran o'r natur ddwyfol, gael ei uno âg ef ar ei enedigaeth. Ond dywedir iddo ymostwng o flaen ymresymiadau Origen, a dychwelyd yn ol i fyn. wes yr Eglwys Gristionogol.

BESOR, [=newydd da]: afon a grybwyllir yn 1 Sam. xxx. 9, 21. Barnai Sanutus ei bod yn cyfodi yn Ngharmel, y berfedd-wlad, yn agos i Hebron, a'i bod yn ymarllwys i Fôr y Canoldir, yn agos i Gaza. Mr. Richardson a farnai mai hon oedd yr un a groesai efe wrth fyned o'r deheu tua Gaza, yr hon a alwai efe Oa di Gaza Wady Gaza. Yr oedd gwely yr afon yma yn ddeg llath ar ugain o led; ond yr oedd wedi sychu i fyny yn gynnar yn Ebrill. Barna Meistri Bonar a M'Cheyne, mai yr un ydoedd a'r afonig a elwir yn awr Wady Salga; a'u prif reswm dros farnu felly ydoedd y cyffelybrwydd tra nodedig rhwng arwedd y wlad o'i hamgylch, a'r crybwyllion a wneir gan yr ysgrifenwyr sanctaidd mewn cyssylltiad âg afon Besor, megys 1 Sam. xxx. 15, lle yr addawai yr Aiphtddyn wrth Dafydd ei arwain at wersyll yr Amaleciaid, gan ddywedyd, "Mi a äf â thi i waered at y dorf hon;" a chan fod Dafydd a'i wyr yn dyfod o'r gogledd, yn gywir y dywedid eu bod yn cael eu dwyn i waered. A thrachefn y dywedir am yr Amaleciaid, "Wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir;" adn. 16. Yr oeddynt yn wasgaredig ar hyd wyneb y meusydd agored a'r dyffrynoedd hyny, yn eu mwynhau eu hunain yn ddiofal. Y prif amgylchiad a barodd grybwyll yr afon hon yn yr Ysgrythyrau oedd, mai yn agos iddi y goddiweddodd Dafydd yr Amaleciaid, wedi eu bod yn anrheithio Siglac, ac yn dwyn gwragedd a phlant Dafydd, a'i wyr, yn garcharorion.

BETAH, [л-hyder]: un o ddinasoedd Syria, o'r hon y dug Dafydd oddi ar Hadadezer, brenin y Syriaid, "lawer iawn o bres;" 2 Sam. viii. 8. Mewn man arall, fe elwir y ddinas hon Tibhath : 1 Cron, xviii. 8.

BETEN, [=bol]: tref o fewn tiriogaeth Aser, yr hon a grybwyllir yn los. xix. 25; a barna llawer mai yr un ydoedd a'r Betah a grybwyllwyd uchod. Dywed Reland ei bod yn gorwedd tuag wyth milltir o Ptolemais, neu Acre. Eusebius a'i geilw Batfai; ac a chwanega, ei bod yn awr yn cael ei galw yn Bethlehem, yn llwyth Aser. Yr oedd tiriogaethau llwyth Aser yn fynyddig, a thybia rhai fod y ddinas hon yn gorwedd mewn ceunant, neu fol, rhwng y bryniau; ac mai oddi wrth hyny y cafodd ei henw. Y mae yr enw Arabaidd yn arwyddocau dwfn, neu isel, ac yn gyfystyr â'r gair Groeg KoελO (calo), oddi wrth yr hwn y deillia Calo Syria, neu Syria yn y ceuedd, neu y bol, sef bol Libanus, am ei bod yn gorwedd rhwng y mynyddoedd Libanus ac Anti-Libanus.

BETONIM, [coed cnau, neu y boliau-o Beten]: dinas berthynol i lwyth Gad, yr hon a orweddai yn rhan ogleddol tiriogaethau y llwyth hwnw, yn agos i ffiniau Manasseh: Ios. xiii. 26. Gan mai y rhif lluosog o'r gair Beten yw yr enw hwn, y mae Calmet yn tueddu i farnu bod y lle wedi cael ei enw oddi wrth amledd o goed cyll a allasent fod yn y gymmydogaeth, gan mai anfynych y mae un dref yn cymmeryd i fyny amryw bantiau, neu nentydd; a chyfrifid cynnyrchion y coed hyn, sef cnau, yn mysg dewisol ffrwythau Canaan, y rhai a anfonid yn anrhegion i wŷr mawr. Gwel Gen. xliii. 11.

BETH, [n=ty]: blaenddod mewn amryw enwau priodol lleol yn y Beibl, megys Bethania, Bethel, &c. Cyfarfyddir â'r gair unwaith fel enw priodol lleol, heb fod mewn cyfansoddiad, ond ei fod yn y disgyniad anymddibynol (absolute state) --ac felly, yn cael ei ddarllen Baith yn y Gymraeg; Esa. xv. 2. Amrywiol ydynt y golygiadau a goleddir am yr enw hwn. Kimchi a dybia y dylai gael ei gyfieithu yn deml; â'r hwn hefyd y cytuna Barnes. Dywed Gesenius mai enw un o ddinasoedd Moab ydoedd. Tybia Vitringa ei bod yr un a Beth-meon (Ier. xlviii. 23), neu Beth-Baal-meon (Ios. xiii. 17). Gan fod cystrawiad y disgyniad meddiannol (genitive case) yn y Gymraeg yr un fath ag yn yr Hebraeg, hawdd yw i Gymro ddeall ystyron yr enwau ag y mae Beth yn flaenddod iddynt, ond iddo chwilio beth yw ystyr y rhan neu y rhanau diweddaf o'r gair. Gan mai meddwl y gair Beth yw tŷ, lle, teml, ac ystyr y gair el (x) yw Duw, ystyr yr enw Bethel yw, ty Dduw.

BETHABARA, neu BETH-BARAH, [Gr. Bnoaßapá; Heb. 2 alle y rhyd]. Cyfarfyddir â'r gair hwn yn Barn. vii. 24, ac amlwg yw ei fod yn nghymmydogaeth yr Iorddonen, nid yn mhell o dir Midian. Bernir mai yr un yw a Bethabara yn Ioan i. 28, lle yr oedd Ioan yn bedyddio. Y mae agos yr oll o'r ysgriflyfrau a'r cyfieithiadau henaf yn darllen Bethania, yn lle Bethabara, yn yr adnod hon; ac am hyny, bernir yn gyffredin yn awr mai dyma y darlleniad cywir. Dywed Dr. E. Robinson, "Ymddengys i'r darlleniad Bethabara godi trwy dybiaeth o eiddo Origen, yr hwn, gan nas gallai gael yn ei amser ef y fath le a Bethania, ond a ganfu dref a elwid Bethabara, lle y dywedid i Ioan fod yn bedyddio, am hyny, a gymmerodd y rhyddid i newid y darlleniad." Yr oedd yno un Bethania, tua dwy filltir i'r dwyrain o Ierusalem; ond yr oedd un arall yn llwyth Reuben, ar yr ochr ddwyreiniol i'r Iorddonen, tua deuddeng milltir uwch law Iericho. Meddylia rhai y gelwid y lle hwn wrth y ddau enw-. -Bethabara, a Bethania; a thrwy hyny, gellir yn hawdd gyfrif am y traddodiad a ffynai yn amser Origen, fod Ioan yn bedyddio yn Bethabara; a chan mai yr enw hwn yn unig a ddefnyddid am y dref yn ei amser ef, iddo gyfnewid y darlleniad yn Ioan. Tardda rhai y gair Bethania, o 8 r2=lle y llongau; os felly, canfyddir fod llawer o gyd-darawiad ystyr rhyngddo a Bethabaralle y rhyd.-(Robinson's Greek Lex., d. g. Bŋ@avía.)

BETH-ACCEREM, [tŷ y winwydden]: un o ddinasoedd Iudah, a orweddai ar fryn heb fod yn mhell o Tecoa; Ier. vi. 1. Bu Malchiah, mab Rechab, yn dywysog y lle hwn; Neh. iii. 14. Dywed y Dr. Pococke, fod y bryn ar yr hwn y

tybir fod y ddinas yma yn gorwedd, yn dra uchel; a bod dwy amddiffynfa gron ar ei ben; ac wrth ei droed, ar y tu gogleddol, adfeilion eglwys, ac adeiladau ereill. Y mae cenadau Eglwys Ysgotland yn ei grybwyll fwy nag unwaith yn eu teithlyfr difyrus, dan yr enw "Mynydd Ffranc," ac yn dyweyd ei fod y lle cymhwysaf a ellid gael i godi ffagl arno, fel arwydd o berygl i'r wlad.

BETHANIA, [Bnavia, n-ty y palmwydd]; per ref yn gorwedd yn nghylch pymtheg ystad (gwaith cerdded tri chwarter awr, medd Robinson), i'r dwyrain-dde oddi wrth Ierusalem, mewn Wady neu ddyffryn bras, ar lechwedd dwyreiniol mynydd yr Olewydd, ac ar y ffordd

o Ierusalem i Iericho; Ioan xi. 18; Marc xi. 1; Luc xix. 29. Yn y pentref hwn y cartrefai Lazarus a'i chwiorydd, y teulu dedwydd y crybwyllir mor fynych am danynt yn hanes dyoddefiadau yr Iachawdwr; Mat. xxi. 17; xxvi. 6; Marc xi. 1, 12; Luc xix. 29. Nid oedd un lle yn fwy priodol na Bethania i fod yr ysmotyn yr esgynai yr Iesu oddi arno at ei Dad (Luc xxiv. 50); o herwydd yma yr adnabyddid ef yn dda, ac yma yr ydoedd cyfeillion a ddymunent yn fawr gael yr olwg olaf arno â'u llygaid eu hunain. Yn Bethania yr oedd tŷ Simon y gwahanglwyfus, lle yr eneiniwyd yr Iesu (Ioan xii. 1); yma hefyd y claddwyd Lazarus: Ioan xi. Nid oes gyfeiriad at y pentref hwn yn yr Hen Destament.

[graphic][merged small]

Y mae yr olwg arno yn bresennol yn dlodaidd; yn cynnwys o ugain i ddeg ar ugain o deuluoedd -Arabiaid a Christionogion yn gymmysg. Addurnir y gymmydogaeth yn awr fel cynt â'r ffigysbren a'r olewydden. Yn rhai o'r tai canfyddir arwyddion o henafiaeth. Y gwrthddrych am. lycaf ydyw tŵr adfeiliedig, wedi ei adeiladu o geryg petryal mawr; ac yma y tystiai y trigolion Mahometaidd yr oedd trigfan Lazarus. Dangosir ei feddrod hefyd yn nghwr gogleddol y pentref. Ymddengys yn ogof naturiol, wedi ei addurno â dwylaw dynion. Dywed Robinson yn benderfynol, "nad oes y tebygolrwydd lleiaf mai hwn oedd bedd Lazarus." I'r gwrthwyneb, y mae Dr. Olim yn tueddu yn gryf i roi ymddiried yn y traddodiad. Mae y mynedfa yn dair troedfedd a hanner o uchder, a dwy droedfedd o led, mewn craig galch; ac o hwn y mae disgynfa trwy saith ar ugain o risiau i ystafell dywell, naw troedfedd petryal. Arweinir o hon i ystafell arall, wyth troedfedd wrth naw. Mae hon yn gyffelyb o ran ei ffurf i hen feddrod Iuddewig. Yr enw presennol ar y pentref ydyw el-Azirezeh, y ffurf Arabaidd o enw Lazarus. Ond er fod yr enw yn wahanol, nid oes ammheuaeth nad y lle hwn ydyw yr un a Bethania gynt. Yn y flwydd yn 333, yr oedd beddgell Lazarus yn cael ei dangos. Yn y pedwerydd canrif, adeiladwyd

eglwys drosti. Yn y deuddegfed canrif, daeth yn safle mynachdy pwysig. Yn 1484, yr oedd yr eglwys uwch ben y bedd mewn bod. Er hyny y mae Bethania wedi dirywio yn barhaus. Y farn gyffredin yw, y dylid darllen Bethania, yn Ioan i. 28, yn lle Bethabara. Yr oedd y Bethania hon yn ail le o'r un enw, a orweddai y tu dwyreiniol i'r Iorddonen. Gwel BETHABARA.

BETH-ARBEL, [x]. Ni chrybwyllir am y lle hwn ond yn unig yn Hos. x. 14; ac ymddengys ei fod yn cael ei grybwyll yno fel amddiffynfa gadarn ac anorchfygol; ac am hyny cadarnheir y dybiaeth mai yr un ydoedd a'r Arbela y sonir am dani gan Josephus. Pentref ydoedd yn Galilea, yn agos i'r hwn yr oedd amrywiol ogofeydd amddiffynedig. Crybwyllir am danynt gyntaf mewn cyssylltiad â gorymdaith Bacchides i Iudea, yn ystod pa amser yr oedd nifer mawr o'r ffoedigion yn llochesu ynddynt; ond darfu i'r cadfridog Syriaidd wersyllu yno nes eu darostwng [Hen. Jos. xii. 11. 1; 1 Mac. ix. 2). Mewn amseroedd diweddarach, daeth yr ogofeydd hyn yn lleoedd i ysbeilwyr ymgilio iddynt, y rhai a flinent y trigolion yn fawr. Yn ol y Talmud, yr oedd Arbel yn gorwedd rhwng Sepphoris a Tiberias (Lightfoot's Chor. Cent. c. 85). Rhydd y dysgrifiad a gawn o Arbela yn Galilea le cryf i

ammheu mai yr un ydoedd a'r lle a adnabyddir yn bresennol wrth yr enw Kulat ibn Maan, ac adfeilion cyfagos Irbid (llygriad, efallai, o Irbilffurf Arabaidd o'r gair Arbela). Tybia Pococke [ii. 58] mai yn y lle olaf hwn y safai Bethsaida, İle y canfu golofnau ac adfeilion eglwys helaeth, gydag ymylddor o fynor gwyn. Y dysgrifiad goreu o'r ogofeydd hyn a geir gan Burckhardt [td. 331], yr hwn a gyfrifa y gallent gynnwys amddiffynfa i oddeutu chwe chant o wyr. Gwel BETHEL

BETH-AFEN, [tŷ eilunod]: enw dirmygus a roddwyd ar Bethel, o herwydd iddi ymlygru gydag addoliad y lloi aur: Hos. iv. 15. Yr oedd tref hefyd o'r un enw, nid yn mhell oddi wrth Bethel, ar y tu dwyreiniol iddi (Ios. vii. 2; 1 Sam. xiii. 5), yr hyn a achosodd, efallai, i'r enw gael ei roddi ar Bethel. Yr oedd anialwch hefyd o'r enw hwn: Ios. xviii. 12.

BETHASMAFETH. Gwel ASMAFETH; 4.

BETH-BAAL-MEON, [tŷ Baal-meon]; Ios. xiii. 17: a elwir hefyd Baal-meon, yn Num. xxxii. 38; a Beth-meon, yn Ier. xlviii. 23. Un o ddinasoedd y Moabiaid, a roddwyd i'r Reubeniaid ydoedd. Dygwyd hi oddi ar y Reubeniaid drachefn, ac adfeddiannwyd hi gan ei hen berch. enogion, y Moabiaid, yn meddiant pa rai yr oedd, dybygid, yn amser Ezeciel: Ezec. xxv. 9. Cyflëir y lle hwn gan Eusebius a Jerome, tua naw milltir o Hesbus, neu Hesbon, wrth droed mynydd Abarim; ond canfu Burckhardt olion tref a elwid Myoun, neu yn ol y Dr. Robinson, Mâi'n, o fewn dwy filltir i'r de-ddwyrain o Hesbon.

feddiannwyd y wlad gan Israel, adferwyd i'r ddinas hen enw cyssegredig y lle y safai arno. Ar ol dychweliad Iacob o Mesopotamia, pabellai yn fynych yn Bethel, adeiladodd yno allor, claddodd Deborah, derbyniodd yr enw Israel yr ail waith, a chyflawnodd yr adduned a wnaethai yno y waith gyntaf (Gen. xxviii. 20-22; xxxii. 28; xxxv. 1-15). Crybwyllir am Bethel, yn amser goresgyniad y wlad, fel un o ddinasoedd breninol Canaan (Ios. xii. 16). Safai ar derfynau rhandiroedd Beniamin ac Ephraim, ond perthynai i'r cyntaf (Ios. xvi. 1. 2; xviii. 13, 22); ac ennillwyd hi o law y Canaaneaid gan feibion Ioseph (Barn. i. 22-26). Yn Bethel y bu arch y dystiolaeth, ac efallai y tabernacl, yn gorphwys am dymmor (Barn, xx. 26, 27; cymharer 1 Sam. x. 3); ac yma, yn nghyd â Gilgal a Mispah, y cadwai Samuel ei frawdlysoedd (1 Sam. vii. 16). Ar ol ymraniad y genedl yn ddwy freniniaeth, perthynai Bethel i Israel; yr hyn sydd yn dangos ei bod wedi ei meddiannu gan Ephraim, am mai y llwyth hwn a'i hennillodd o law y Canaaneaid, wedi bod yn perthyn yn wreiddiol i lwyth Beniamin. Halogwyd Bethel gan eilunaddoliaeth y lloi a gyfodasai Ieroboam yno, ac yn Dan; ac ymddengys mai yn Bethel yr oedd prif eisteddle yr eilunaddoliaeth hwn (1 Bren. xii. 28-33). Tybir mai yr achos y dewiswyd Bethel i hyn oedd, am fod y lle wedi ei gyssegru gan y patrieirch, a chan y tabernacl. Llefara y prophwydi gydag adgasrwydd amdani, o herwydd yr halogiad hwn; a newidia Hosea ei henw o Bethel tŷ Dduw, i Bethafen-tŷ eilunod: Hos. iv. 15; v. 8; x. 5, 8. Cymmerwyd y ddinas oddi ar Ieroboam gan Abiah, brenin Iudah: 2 Cron. xiii. 19. Wedi caethgludo Israel gan yr Assyriaid, dilewyd pob olion o'r eilunaddoliaeth gan Iosiah, brenin Iudah, yr hwn, drwy hyny, a gyflawnodd y brophwydoliaeth a wnaed i Ieroboam dri chant a hanner o flyneddoedd cyn hyny: 1 Bren. xiii. 1, 2; 2 Bren.xxiii. 15-18. Crybwyllir am y lle ar ol dychweliad y gaethglud o Babilon, ac yr oedd y pryd hyny yn meddiant y Beniaminiaid; Ezra ii. 28; Neh. vii. 32. Adgyfnerthwyd y ddinas gan Bacchides, y cadfridog Syriaidd, yn amser y Maccabeaid. Ni cheir un crybwylliad am dani yn y Testament Newydd, ond y mae yn eglur oddi wrth yr hyn a ddywed Josephus [Hen. xiii. 1, 13], ei bod mewn bod y pryd hyny; a chymmerwyd hi gan Vespasian yn y rhyfeloedd Iuddewig. Dysgrifir hi gan Eusebius a Jerome BETHEL, [ na; Deg a Thrigain, Baionλ= fel pentref bychan yn eu hamser hwy; a dyma y tŷ Dduw]: a elwid yn gyntaf Luz-oedd ddinas crybwylliad diweddaf a geir am dani fel dinas yn sefyll yn y gorllewin i Ai. Crybwyllir am y gyfanneddol. Y mae yn wir y sonir am dani gan lle yn fynych yn yr Ysgrythyrau. Ar y mynydd, ysgrifenwyr yn amser rhyfeloedd y groes, ond yn gyfagos i Bethel, yr estynodd Abraham ei yn unig fel lle adnabyddus mewn hanes ysgrythbabell, ar ei ddyfodiad i'r wlad y waith gyntaf, yrol. Y mae yr adfeilion presennol o honi yn ac yr adeiladodd allor, ac y galwodd ar enw yr dangos y cafodd ei hadnewyddu ar ol dyddiau Arglwydd (Gen. xii. 8). Yma, yn mhen 156 o Jerome; o blegid bu yn fwy na phentref bychan, flyneddoedd ar ol hyny, y cafodd Iacob weledig- fel y mae ef yn ei gosod allan; a thybir oddi wrth aeth yr ysgol, y derbyniodd yr addewidion, y yr adfeilion eglwysig sydd yno, y bu yn dref lled gwnaeth gyfammod â Iehofah, y cymmerth y enwog mor ddiweddar a'r canoloesoedd. Yn y gareg y gorweddasai arni, ac a'i cyfododd yn canrifoedd diweddaf, chwilid am Bethel yn agos golofn goffadwriaethol, ac a dywalltodd olew i Sichem; ond yn y blyneddoedd diweddaf, cafodd arni (Gen. xxviii. 11-19). Rhoddodd hefyd yr y cenadau Protestanaidd yn Ierusalem fod ei enw Bethel ar y fan; yr hwn mewn amser a henw a'i sefyllfa yn adnabyddus yn mysg trigolddaeth i arferiad yn lle Luz. Barna Havernick ion y wlad. Credir, yn gyffredin, ei bod yr un [Intro. to the Pentateuch], ac amryw ereill, yr hyn a Beitîn, yn mynyddoedd Ephraim, yn nghylch a ymddengys y mwyaf tebygol, nad oedd yno deuddeng milltir i'r gogledd o Ierusalem, ac ddinas y pryd hyny. Sonia yr hanesydd, a Iacob ychydig i'r dwyrain o'r ffordd sydd yn arwain ei hun, am Bethel fel lle; ond cyn amser Moses trwy Samaria i Galilea. Safai ar dafod o dir yr oedd yno ddinas yn adnabyddus wrth yr enw rhwng dau ddyffryn, y rhai a ymunant islaw Luz, a breswylid gan y Canaaneaid; ond paniddi, ac a redant i'r de-ddwyrain tua'r Iorddonen.

BETH-DAGON, [tŷ yr ŷd, neu y ffrwythau; neu yn hytrach, teml Dagon]: dinas yn nhiriogaethau llwyth Aser: Ios. xix. 27. Yr oedd dinas arall o'r un enw yn perthyn i lwyth Iudah. Efallai iddynt gael yr enwau yma, o herwydd fod temlau ynddynt i'r eilun-dduw Dagon, cyn eu meddiannu gan yr Israeliaid.

BETH-DIBLATHAIM, neu BETH-DIBLAIM, [tŷ y ffigys sychion]: un o orsafau yr Israeliaid, ar eu taith i Ganaan, yr hon hefyd a elwir Almon-Diblathaim, a Diblath: Ier. xlviii. 22; Num. xxxiii. 46, 47; Ezec. vi. 14.

DOSB. I. CYF. 1.] 3 C

« PrécédentContinuer »